Ffoniwch gwasanaeth cwsmeriaid: 0800 1835757
Gwaith Trwsio Argyfwng
Os oes gennych waith trwsio argyfwng, yna peidiwch ag oedi mae arnom eisiau gwybod fel y gallwn ddatrys y broblem i chi. Mae ein staff gwasanaethau cwsmeriaid cyfeillgar wrth law i helpu, ffoniwch 0800 1835757.
Rydym wedi rhestru enghreifftiau o’r gwaith trwsio mwyaf cyffredin rhag ofn nad ydych yn siŵr.
- Dim gwres neu ddŵr poeth
- Cloeon neu goriadau ar goll
- Colli trydan
- Nwy neu darth yn gollwng
- Gosodiadau trydanol yn cyffwrdd dŵr
- Gwifrau trydan byw neu yn y golwg
- Carthffosiaeth yn llifo i’r cartref
- Dŵr na ellir ei reoli yn gollwng
- Tanciau storio, silindrau neu bibellau yn gollwng
- Larymau tân/mwg cymunedol diffygiol yn canu
- Brics neu deils to yn rhydd neu’n beryglus
- Problemau gydag addasiadau mawr – e.e. lifftiau i deithwyr
Os nad yw eich problem yn ffitio yn unrhyw un o’r categorïau hyn, yna defnyddiwch y System rhoi diagnosis gwaith trwsio a all eich helpu yn gyflymach.